|
Croeso i Lwybrau at Dirweddau DiwylliannolMae´n bleser eich croesawu i´n tudalen gartref Rydym yn falch iawn bod gennych ddiddordeb yn y Tirweddau Diwylliannol Ewropeaidd, a hoffem gyflwyno ein prosiect i chi. Mwynhewch! Mae angen arbenigwyr ar dirweddau diwylliannolMae "Llwybrau at Dirweddau Diwylliannol" yn bartneriaeth rhwng sefydliadau cyhoeddus a phreifat sy´n gofalu am dirweddau diwylliannol eu hardaloedd ledled Ewrop mewn modd cymwys a phroffesiynol trwy gyfrwng ymchwil wyddonol, cysylltiadau a rheolaeth gynaliadwy. Mae´r gwaith o greu fforwm cyffredin ar gyfer trafod a chydweithredu yn cael ei ariannu gan raglen Diwylliant 2000 yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan yr holl bartneriaid brofiad proffesiynol o reoli tirwedd. Maent yn ymgymryd â phrosiectau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dyfeisgar a gwyddonol a hynny mewn maes gwaith cymharol newydd. Mae´r dulliau hyn yn amrywio o Waith cloddio archeolegol i reoli parthau Mae´r prosiect yn cael ei reoli gan swyddfa gydlynu´r prosiect Ewropeaidd "Llwybrau at Dirweddau Diwylliannol": mae´n edrych ar ôl buddiannau´r partneriaid, yn annog cydweithrediad rhyngwladol rhwng y partneriaid a´r deuddeg prosiect cenedlaethol, mae´n hybu rhwydweithio a chyflwyno´r cysyniad o dirweddau diwylliannol i´r cyhoedd. Prif swyddogaethau´r swyddfa, felly, yw lledaenu gwybodaeth, lobïo penderfynwyr, a chodi proffil tirweddau diwylliannol mewn cymdeithas, ac o fewn yr economi a gwleidyddiaeth. Newid iaith | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|